Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 92 (28 ymhob 100ml)
Sgôr: 5 o 5
Buodd cwrw di-alcohol yn trigo mewn cornel fach druenus o’r farchnad ers degawdau. Felly, pan mae’r hogiau mawrion yn dechrau buddsoddi o ddifri mewn diodydd newydd a phecynnau ffansi, mi wyddoch chi fod rhywbeth yn digwydd.
A dweud y gwir, nid dyma’r tro cyntaf i Guinness fentro rhoi i ni gwrw melyn di-alcohol (er eu bod yn enwocach o dipyn am gwrw du enwoca’r byd). Pwy all byth anghofio Kaliber yn yr 1980au? Yn anffodus, roedd hysbysebion gwych Billy Connolly gryn dipyn yn well na’r cwrw ei hunan.
Diolch byth, mae’r Pure Brew newydd yma gan Guinness, sydd ar werth ym Morrison’s, yn gwrw penigamp. Mae’r rhagorol, ardderchog, amheuthun ac adfywiol. Dyma’n union sut dylai lager da fod.
Mae ganddo liw hyfryd a blas braf gydag awgrym o sitrws. Mae’n swmpus ac yn gwneud i gyrfau melyn di-alcohol eraill deimlo braidd yn denau. Yn wahanol i’r hen Kaliber, dyw e ddim wedi mynd trwy ryw broses i dynnu’r alcohol allan ohono – mae’n cael ei fragu i fod yn 0.5% alcohol, a dyma ni. Efallai mai dyna’r rheswm nad oes ganddo ddim o’r arogl rhyfedd neu adflas cemegol sy’n difetha rhai cyrfau di-alcohol. Mae’n bosibl mae’r Guinness hwn yw gwin y gwan yn wir