Gym Beer

English | Cymraeg

Mae’n ddiod ysgafn a ffrwythus, gyda thrwyth mwyar gwynion.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0%

Calorïau ymhob 100ml: 11

Cawson ni’r cwrw yma o Wlad Pwyl ar werth ym Morrison’s yn 2025. Y peth cyntaf sylwon ni arno oedd diwyg y can: mae’r ddiod wedi’i brandio fel diod i athletwyr, gan addo ffeibr, asidau amino, a joch o gaffîn, yn ogystal â holl gynhwysion arferol cwrw di-alcohol.

Mae’n ddiod ysgafn a ffrwythus, gyda thrwyth mwyar gwynion. Mae’r caffîn yn dod o gwarana, sy’n blanhigyn o Dde America. Mae’n fwy melys na’r rhan fwyaf o gyrfau ond heb fod yn rhy felys. Rhowch gynnig arno!

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​