Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 63 (23 ymhob 100ml)
Sgôr: 5 o 5
Mae cryn dipyn o hanes i fragdy Harvey, bragwyr annibynnol mwyaf hir-sefydlog eu sir. Mae diwyg potel yr Old Ale yma yn adlewyrchu hynny, gyda delwedd dwt o ddeilen derwen a mesen yn galw i’r meddwl goedwigoedd eang de-ddwyrain Lloegr.
Fel y Sussex Best uchod, mae Harvey a’i Fab yn gwneud Old Ale prin-ei-alcohol ers tro, ond gyda thwf y farchnad ddi-alcohol, maen nhw wedi penderfynu ei hybu o’r newydd. Peth braf hefyd. Mae’r byd cwrw dirwestol yn gyforiog o gyrfau melyn (o’r gwych i’r gwachul), ac ond mae gwagle amlwg tua’r ochr dywyll.
Wel, peidied neb â phoeni rhagor. Mae’r gwagle wedi’i lenwi’n fwy na digonol. Does gyda ni ddim syniad sut maen nhw’n gwneud y stwff yma. Ond sut bynnag maen nhw’n ei wneud e, maen nhw’n ei wneud e’n dda. Mae’r lliw’n hyfryd, fel caramel tywyll. Mae gwynt cwrw da arno fe. Ac mae’r blas yn fythgofiadwy – fel y Nadolig mewn gwydryn. Mor nerthol yw’r blas a’r aroglau, gydag arlliw o siocled a sinamon, go brin byddai rhywun yn sylwi bod cyn lleied o alcohol ynddo fe.
Un peth bach neis arall am bob un o gyrfau’r bragdy yw eu bod nhw’n cynnig cymryd unrhyw boteli gwag yn ôl er mwyn eu golchi a’i hail-lenwi, yn union fel dyn llaeth hen-ffasiwn – hen ffordd hynod effeithiol i fod yn wyrdd.
Harvey’s Old Ale
English | Cymraeg
Ein barn ar Harvey’s Old Ale
Sgôr:
5/5
Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.