Spartan

English | Cymraeg

Ein barn ar Spartan

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: 21

Cwmni cymharol newydd yw Bragdy Hepworth, wedi’i sefydlu yn 2000, er bod y sylfaenydd Andy Hepworth wrthi’n creu cwrw ers yr 1980au. Mae ganddyn nhw gasgliad o dri chwrw 0.5%, gan gynnwys y cwrw ambr yma.

Y peth cyntaf sylwon ni arno oedd arogl cwrw da. Mae’r ddiod yn teimlo ychydig yn denau yn y geg, ond mae cydbwysedd da rhwng hopys a brag, ac awgrym gogleisiol o agafe. At ei gilydd, dyma fersiwn di-alcohol da o gwrw chwerw traddodiadol.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​