Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 50 (18 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5
Dechreuodd John Harvey fragu cwrw yn Sussex ymhell yn ôl yn yr 1820au. Mae busnes y teulu yn dal i fynd, ac mae Harvey a’i Fab wedi’u hen sefydlu yn un o brif fragwyr rhanbarthol de-ddwyrain Lloegr. Bob Dydd Mawrth, maen nhw’n dosbarthu cwrw i dafarndai lleol â chert a cheffylau. Yn wir, mae 80% o’u cwrw yn cael ei yfed o fewn 50 milltir i’r bragdy. Diolch byth, diolch i wyrth y we, mae modd cael cwrw Harvey mewn mannau pellach hefyd, ac mae digon o ddewis.
Yn ôl y sôn, maen nhw’n gwneud Sussex Best heb fawr ddim alcohol ers ychydig flynyddoedd. Ond wrth i’r farchnad am y fath ddiodydd adfywio, maen nhw wedi penderfynu eu hail-lansio.
Fel mae’r enw yn awgrymu, cwrw chwerw traddodiadol yw hwn. Mae’n tywallt yn dda, gyda lliw caramel golau (eithaf tebyg i’r Leeds OPA a digon o ewyn. Mae blas hopys da, ond dyw e ddim yn ormodol. Os yw Nanny State, er enghraifft, yn rhy chwerw i chi, gallai’r Sussex Best yma fod at eich dant. Rhaid dweud ei fod yn teimlo braidd yn denau; ond yn ôl un o’n panel profi, mae’n cyd-fynd yn berffaith gyda phowlenaid o gnau hallt!
Harvey’s Sussex Best
English | Cymraeg
Ein barn ar Harvey’s Sussex Best
Sgôr:
3/5
Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.