Hawkstone Zero

English | Cymraeg

Cwrw ysgafn gyda chydbwysedd da rhwng chwerwder a melystra

Sgôr:

4/5

Cryfder: llai na 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: 13

Dyn sy’n ennyn teimladau cryf yw Jeremy Clarkson, ac yntau’n gwneud hynny ers iddo ddechrau cyflwyno Top Gear, yn ôl yn 1988. Yn fwy diweddar, buodd e’n denu sylw mawr trwy ei gampau fel ffermwr a bragwr, ac mae ei gwrw Hawkstone wedi dod yn boblogaidd dros ben.

Lansiwyd Hawkstone Zero yn 2026, gan addo “blas awchus cwrw melyn go-iawn, ond heb yr alcohol”. Dyma gwrw ysgafn gyda lliw euraidd dwfn a chydbwysedd da rhwng chwerwder a melystra. Wedi’i oeri’n dda, mae’n ddiod foddhaol iawn.

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​