Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob 100ml: 19
Roedd Heineken ymhlith y bragwyr cyntaf i ymuno â’r don newydd o gyrfau di-alcohol tua 2017 gyda Heineken 0.0. Yn 2026, ehangon nhw eu cynnig gyda’r cwrw ffrwythus yma.
Yr hyn sy’n gwneud hon yn ddiod arbennig yw ei bod hi’n llawn ffrwythau ond yn dal i flasu fel cwrw. Dyw hi ddim yn rhy felys ac mae cydbwysedd da rhwng blasau cwrw – brag, hopys a burum – a sudd nectarinau naturiol a ffres, gan greu cwrw euraidd bywiog sy’n ddelfrydol at dywydd poeth.