Hofmeister Ultra Low

English | Cymraeg

Ein barn ar Hofmeister Ultra Low: cwrw melyn Almaenaidd braf

Sgôr:

4/5

Calorïau ymhob 100ml: 19

Cryfder: 0.5%

Yn ôl yn yr 1980au, cafodd Hofmeister ei lansio ym Mhrydain fel cwrw melyn gyda naws Almaenaidd. Câi ei hysbysebu gan George, arth mewn het feddal a siaced sidan, oedd yn adnabyddus am ei ymddygiad mochaidd tuag at ferched.

Er bod George, yn ôl y sôn, yn hanu o goedwigoedd Bafaria, câi’r cwrw ei fragu ym Mhrydain. Dirywiodd poblogrwydd yr arth a’i gwrw ar hyd y blynyddoedd. Ond yn 2017 cafodd yr enw ei brynu gan Spencer Chambers a Richard Longhurst ac aethon nhw ati i ail-lansio Hofmeister fel diod Almaenaidd drwyddi draw. Maen nhw bellach yn cynhyrchu tri math o gwrw, gan gynnwys hwn gyda chryfder o 0.5%.

Dyma gwrw melyn Almaenaidd dymunol iawn. Mae mymryn o felystra ond mae’n cael ei gydbwyso gan is-flas hopys chwerw – gormod o hopys, o bosibl, i ambell un sy’n mynd am gwrw melyn fel arfer. Gwerth rho cynnig arno, yn sicr.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​