Impossibrew Lager

English | Cymraeg

Ein barn ar Impossibrew Lager

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob can: 66 (15 ymhob 100ml)

Mae cyrfau Impossibrew yn cael eu disgrifio fel “diodydd ffwythiannol”. Ystyr hynny yw eu bod i fod i hybu eich egni a’ch iechyd yn ogystal â thorri’ch syched. Maen nhw wedi’u creu gyda chymysgedd arbennig o berlysiau sydd â rhinweddau meddygol ym marn rhai.

Er mor naturiol yw’r ddiod, mae gan y can olwg ddiwydiannol drawiadol, mewn gwyn a du gyda mymryn o aur. Euraidd hefyd yw lliw’r cwrw tu fewn – bron yn ambr, a dweud y gwir. O ran y blas, mae’n llawn dop o hopys chwerw ac felly’n debygol o apelio mwy at garedigion cwrw gwelw na’r rhai sy’n ymhyfrydu mewn cwrw melyn arferol. Ond ni waeth ai IPA ynteu lager sydd at eich dant, dylech chi roi cynnig ar hwn, yn sicr.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​