J2O Blackberry and Blueberry Martini

English | Cymraeg

Ein barn ar J2O Blackberry and Blueberry Martini.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0%

Calorïau ymhob 100ml: 17

Am amser maith, diodydd i blant oedd J2O ym marn llawer un – rhywbeth mwy ffrwythus a mwy iachus i’w brynu yn lle lemonêd neu cola. Ond diod ar gyfer oedolion yw’r moctel newydd yma – sy’n rhan o gasgliad o dair diod gyffelyb.

Yn sicr, diod aeddfed yr olwg yw hi. Mae ganddi liw coch tywyll, deniadol o naturiol. Mae awgrym o geirios y yn y blas er mai llus a mwyar yw'r prif gynhwysion; ac mae hi’n ddiod foddhaol o drwchus. Mae’r gwneuthurwyr yn awgrymu ei gweini mewn gwydryn llydan gyda llond ffon goctel o lus. Mae gennym ni ryw syniad y gallai weithio’n dda fel diod boeth hefyd.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​