Jewel of York

English | Cymraeg

Ein barn ar Jewel of York.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob can: wrthi’n aros gwybodaeth

Yn sicr, mae Jewel of York yn un o’r diodydd mwyaf diddorol a gafodd eu lansio yn 2022, yn rhannol oherwydd ei hanes hynod. Cafodd ei greu yn ninas Caerefrog gan fragdy Ainsty Ales ar y cyd â’r elusen leol Menfulness. Annog dynion i siarad yn fwy agored am eu hiechyd meddwl yw amcan Menfulness. A gan fod alcohol yn un o’r pethau mae dynion yn eu defnyddio er mwyn osgoi siarad am eu teimladau, mae’n debyg fod cwrw heb bron dim alcohol ynddo yn ffordd dda i wneud i bobl dechrau meddwl am y mater.

Mae’r cwrw ei hun yn dod mewn can glas prydferth. Ar ôl ei dywallt, mae’n gwrw eithaf gwelw a gweddol fywiog. Mae ewyn trwchus ond dyw e ddim yn para’n hir. Mae’r blas yn ysgafn, gyda mymryn o sitrws, a gyda mwy o hopys na lager arferol. Efallai bydd e’n apelio mwy i garedigion cwrw gwelw na chwrw melyn. Sut bynnag, mae’n werth rhoi cynnig arno.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​