Jukes Cordialities

English | Cymraeg

Ein barn ar Jukes Cordialities

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob 100ml: yn amrywio o ran faint o ddŵr byddwch chi’n ei roi atynt
Mae sgôr i bob un o dair diod Jukes i’w chael isod

Mae Matthew Jukes yn fyd-enwog fel awdur ac arbenigwr ar winoedd, ac yn gweithio yn y fasnach winoedd ers 30 mlynedd a rhagor. Ar y cyd â’i gydweithiwr Jack Hollihan, aeth ati i greu diod o fath newydd – un sy’n “gwneud popeth mae gwin yn ei wneud o ran arogl, blas ac adflas, ond heb rawnwin nac alcohol”. Gyda’i gilydd, llwyddon nhw i ddyfeisio casgliad unigryw o dair diod.

Y peth cyntaf i’w ddweud am gwmni Jukes yw eu bod nhw’n giamsters ar ddylunio a phecynnu. Daw’r diodydd mewn bocs ciwbig twt gyda naw potel win fechan tu fewn – mae fel derbyn anrheg. Mae’r poteli mor fach oherwydd mai diod ar gyfer ei chymysgu yw hon. Mae pob ffiol yn dal digon o surop i wneud dau wydraid 125ml – maint gwydraid gwin bach safonol – neu un gwydraid mawr 250ml, os dyna eich dymuniad. Mae eisiau cymysgu’r cordial gyda dŵr llonydd neu fyrlymus, neu ddŵr tonic, nes cyrraedd cryfder sydd at eich dant. A dyna i chi eich diod!

Fel dwedon ni, mae tri math o ddiod, a chewch eu harchebu yn unigol neu fel set o dri. Dyma farn ein panel profi ar bob un:

  • Diod gymylog, debyg ei lliw i seidr yw Jukes 1 gydag arogl perlysieuol pleserus. Fel pob un o ddiodydd Jukes, finegr seidr yw’r prif gynhwysyn. Yn yr achos yma, ychwanegwyd ato eirin, eirin gwlanog, ciwcymber, afal a phîn-afal. At ei gilydd, diod ffrwythus ddymunol yw hi, gan ein hatgoffa yn anad dim o gordial blodau’r ysgaw. 3 o 5
  • Mae gan Jukes 2 liw gwin coch ysgafn. Mae wedi’i gwneud o ffrwythau tywyll, gan gynnwys ceirios y wern, ceirios sur, a llus. Yn anffodus, dyma’r un o’r tair diod roedden ni’n ei hoffi lleiaf – roedd ein panel profi yn cael blasau finegr ac anis yn bennaf oll. 2 o 5
  • Jukes 6 yw’r ddiod fwyaf tywyll o’r tair, fel gwin coch trwm. Mae wedi’i gwneud o fwyar duon a cyrens duon, sydd ill dau yn ffrwythau eithaf sur. Er hynny, roedd ein panel profi yn ei chael hi fymryn yn rhy felys. Fel Jukes 1, cordial ffrwythau digon dymunol yw hi. 3 o 5

Mae Jukes Cordialities wedi cael cryn ganmoliaeth gan feirniad eraill felly does dim rhaid i dderbyn ein barn ni. Fel pob tro, bydd rhaid i chi farnu drosoch chi’ch hunan.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​