Jump Ship Flying Colours

English | Cymraeg

Ein barn ar Jump Ship Flying Colours

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob can: 56

Dyma gwrw rhagorol arall gan Jump Ship, un o fragwyr di-alcohol gorau’r Alban. Mae’n gwrw gwelw da ond heb gymaint o hopys â chwrw Goosewing o’r un bragdy. Mae ganddo liw mwy tywyll a mwy o flas brag.

Os ydych chi’n weddol hoff o gwrw gwelw ond yn gweld rhai ohonyn nhw’n rhy chwerw o dipyn, efallai mai dyma’r ddiod i chi. Ac os yw cwrw di-alcohol yn beth newydd i chi, mae’n lle da i ddechrau’ch taith.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​