Jump Ship Goosewing IPA

English | Cymraeg

Ein barn ar Jump Goosewing IPA

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob can: 40

Mae’r ddiod arbennig yma gan Jump Ship yng Nghaeredin yn gwrw gwelw o’r iawn ryw – chwerw dros ben gydag awgrym o sitrws.

Mae’n gwrw bywiog gyda digon o ewyn wrth ei dywallt, ac mae’n sicr o blesio criw’r di-ri o gwrwgarwyr sy’n dwli ar gwrw gwelw llawn hopys. Os ydy hi’n well gennych chi rywbeth gyda ychydig llai o chwerwder, rhowch gynnig ar eu cwrw Flying Colours. Rhoddon ni sgôr o 5 allan o 5 i hwnna hefyd.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​