Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau per 100ml: 23
English | Cymraeg
Cwrw hydrefol gyda surni digonol ond nid gormodol
Sgôr:
5/5
Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau per 100ml: 23
Ar yr olwg gyntaf, mae Ocean Drift yn dod allan o’r can yn lân a chlir. Does nid gwaddod na chymylogrwydd yn y gwydryn. Mae i’w weld yn gras yn hytrach nag yn niwlog neu’n wladaidd. Chewch chi ddim awgrym mawr o’r ffrwythau o’r arogl, ond cewch chi ragflas o’i surni.
Mae blas y ffrwyth yn dod yn gyntaf ond heb fod yn felys. Mae rhyw argraff gyffredinol o aeron yn hytrach nag un blas clir, ac mae’r ddiod yn teimlo’n fwy hydrefol na hafaidd. Mae surni’r ddiod yn ddigon i roi egrwch heb wneud i chi wingo wrth ei llymeitian, yn wahanol i ambell kombucha.
Mae’n gadael teimlad sych braidd ar y trafod ac yn nhaflod, sy’n gwneud i hon deimlo fel diod i oedolion, nid rhywbeth suddlon neu felys. Fel pob un cwrw gan Jump Ship, does dim glwten ac mae’n addas i feganiaid.
Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.