Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob potelaid: 88 (35 ymhob 100ml)
Sgôr: 5 o 5
Mae’r bragwyr rhyngwladol AB InBev eisoes yn adnabyddus yn y farchnad ddi-alcohol am Becks Blue a Budweiser Prohibition, ond diod newydd i ni yw Jupiler 0.0, a ddaeth yn rhan o’u portffolio yn 2016.
Brand o bwys yng Ngwlad Belg – lle mae’r bragdy – yw Jupiler. Mae’r cwrw arferol-ei-gryfder (5.2%) yn ddewis ddiod i filiynau o bobl ym mro Tintin a’r moule-et-frites, ac mae’r cwmni’n noddi uwch-gynghrair pêl-droed y wlad a hefyd y tîm cenedlaethol.
Felly, ydy eu stwff 0.0% yn debygol o fod yn gymaint o ffefryn? Cwbl bosibl. Lager da yw hwn. Mae’r lliw’n dda, yr arogl yn dda, a’r blas yn dda, gydag awgrym bach o berlysiau. Os cwrw melyn yw eich deléit, fydd hwn ddim yn eich siomi.
Mae hysbysebion Jupiler braidd yn hen-ffasiwn o wrywaidd, fel hon, lle mae criw o ddynion yn dringo mynydd er mwyn chwarae pêl-droed ac yfed cwrw. Does dim rhaid i chithau fynd cyn belled â hynny er mwyn cael gafael ar Jupiler 0.0. Cawson ni rai gan y Wise Bar Tender, un o nifer o siopau ar-lein sydd bellach yn ateb y galw am gyrfau di-alcohol o safon.