Jörg Geiger ViSecco mit Pinot Meunier

English | Cymraeg

Ein barn ar Jörg Geiger ViSecco mit Pinot Meunier.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0%

Calorïau ymhob 100ml: 30

Diod felys a ffrwythus, bron fel tarten geirios.

Afalau yw prif gynhwysion llawer o ddiodydd Manufaktur Jörg Geiger yn neheudir yr Almaen. Mae awgrym o afalau a gellyg yn hon, ond gwin di-alcohol yw hi yn y bôn.

Roedd ein panel profi yn mwynhau’r ddiod yma, ac yn ei gweld yn ddewis di-alcohol da i’w yfed yn lle gwin. Mae ganddi gydbwysedd da rhwng sychder a melystra ffrwythus, gyda mymryn o frathiad.

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​