Jörg Geiger Weissduftig

English | Cymraeg

Ein barn ar Jörg Geiger Weissduftig.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0%

Calorïau ymhob 100ml: 54

Diod felys gyda nodau Nadoligaidd.

O’u cartref ym mro dra hanesyddol Swabia yn neheubarth yr Almaen, mae Manufaktur Jörg Geiger yn cyfuno cynhwysion traddodiadol efo medrusrwydd modern i greu amrywiaeth fawr o ddiodydd di-alcohol, gan gynnwys hon.

Roedd ein panel yn mwynhau profi’r Weissduftig – gwyn persawrus – yma ac roedd blasau’r afalau a’r sinamon yn eu hatgoffa am nosweithiau clyd gartref yn gochel rhag y gaeaf. Fel dwedodd un ohonyn nhw , “Mae blas noson Guto Ffowc arno fe!”.

Mae’r ddiod wedi’i phecynnu’n dda gyda chorcyn fel potel Champagne a thirlun dyfrlliw pert ar y label. Os ydych chi’n chwilio am ddiod i’w hyfed yn lle gwin pefriog, efallai nad dyma’r un i chi, gan fod ei blas yn ddrych o’i phrif gynhwysion, sef afalau a gellyg. Ond os yw’r ffrwythau hynny at eich dant, ewch amdani!

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​