Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100g: 32
English | Cymraeg
Does dim byd annisgwyl iawn mewn jin ddi-alcohol fel arfer. Ond un wahanol yw hon.
Sgôr:
5/5
Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100g: 32
Does dim byd annisgwyl iawn mewn jin ddi-alcohol fel arfer. Ond un wahanol yw hon. Yn gyntaf oll, mae’r lliw pinc a’r arogl satswmas. Mae’r blas yn fwy cymhleth na’r rhelyw hefyd. Mae holl flasau arferol jin, ond hefyd y satswmas o hyd, a cynhesrwydd sbeisiog braf.
At hynny, mae ffwng Pigau Barfog – neu Fwng y Llew – sy’n rhan o feddyginiaeth draddodiadol ers achau (er nad yw pawb yn cytuno am ei werth meddygol).
Tonic a dŵr soda yw’r ddau ddewis amlycaf ar gyfer ei chymysgu, ond rhowch rwydd hynt i’ch dychymyg a gweld pa ryseitiau sy’n dod i’ch meddwl!
Mae Cygnet Infinity yn cael ei chynhyrchu yn nistyllfa Cygnet yn Abertawe, a gafodd ei sefydlu gan y gantores Katherine Jenkins OBE. Fel pob un o’u diodydd, mae’n dod mewn potel drawiadol ar siâp gwddf alarch.
Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.