Cryfder: dim mwy na 0.05%
Calorïau ymhob potelaid: 210 (42 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5
Lle bach diddorol sydd gan seidr gellyg neu “perai”, yn y byd diodydd. Ar y llaw law, mae gyda ni berai hen-ffasiwn, wedi’i greu o ellyg arbennig ar ffermydd bychain ar gyfer yfwyr arbenigol. Wedyn mae brandiau fel Lambrini a Country Manor. Seidr gellyg cryf yw’r rhain, yn cael eu marchnata fel gwin.
Ac i gloi, dyna’r stwff sy’n cael ei alw’n “seidr gellyg”. O’r rhain, Kopparberg sy’n gwerthu orau ar draws y byd, gan achub y blaen ar gystadleuwyr mawr fel Bulmer’s a Mangner’s.
Yn ôl pobl Koppaberg, mae sudd gellyg aeddfed yn cael ei gymysgu â dŵr naturiol o feddal i wneud diod ffrwythus sydd hefyd yn “pwnio gyda blas gellyg cryf”.
Fel seidrau eraill Koppaberg, fydd hwn byth yn plesio’r puryddion, ond dylai apelio at yfwyr sydd wedi mwynhau’r seidrau melysach a haws-eu-hyfed sydd wedi cyrraedd ers tua 2000.
Fel yn achos eu seidrau ffrwythau cymysg, trïom ni seidrau gellyg cryfder-llawn a di-alcohol Koppaberg gyda’i gilydd ac roeddem ni’n methu gwahaniaethu rhyngddyn nhw. Felly, os ydych chi’n un o’r bobl sydd wedi helpu gwneud Kopparberg 4.5% yn seidr gellyg mwyaf poblogaidd y byd, does dim rhaid i chi chwilio ymhell am ddiod ddi-alcohol at eich dant.
Unwaith eto, rhoddwn ni 4 allan o 5 am iddi gyrraedd yr union nod mae Kopparberg yn anelu amdani.