Krombacher Pils

English | Cymraeg

Ein barn ar Krombacher Pils.

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 86 (26 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Sefydlwyd y Krombacher Brauerei yn 1803 wrth odre Mynyddoedd Rothaar yng nghefn gwlad gorllewin yr Almaen. O fusnes teuluol bach, tyfodd i fod yn un o fragdai mwyaf llwyddiannus y wlad.

Mae golwg hen-ffasiwn braidd ar y botel, ond mae’r cwrw tu fewn iddi o’r safon orau. Pils (neu pilsner) yw hwn, math o gwrw melyn ysgafn a grëwyd yn gyntaf yn ninas Plzeň (sy’n rhoi iddo ei enw) yn y Weriniaeth Tsiec. Ystyr hynny yw, os ydych chi’n chwilio am ddiod sy’n llawn blasau cryf a chymhleth, dim dyma’r ddiod i chi. Os ydych chi’n chwennych rhywbeth adfywiol a hawdd ei yfed, ewch amdani. Os bydd yn cyrraedd silffoedd archfarchnadoedd Prydain, bydd yn cynnig her sylweddol i rai o’r brandiau cwrw melyn mawr sy’n teyrnasu yn y farchnad lai alcoholaidd ar hyn o bryd.

Fel llawer o gyrfau di-alcohol o’r Almaen, mae Kromacher Pils yn cael ei farchnata yno fel diod isotonig, ac yn ôl y sôn mae’n “boblogaidd ymhlith athletwyr amatur fel diod i’w mwynhau ar ôl ymegnio ar y trac neu’r cae”.

Cawson ni ein Krombacher trwy Morgenrot yn Manceinion, sy’n mewnforio cwrw a gwinoedd ar gyfer siopau a thafarndai. Gallwch chi hefyd ei brynu gan Dry Drinker, Wise Bartender, a’r Alcohol Free Shop.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​