Kylie Sparkling Blanc

English | Cymraeg

Ein barn ar Kylie Sparkling Blanc.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.0%

Calorïau ymhob 100ml: 22

Dyma adolygiad gan un o’n Lleisiau Lleol, Emma Hough.

Mae’r ddiod yma yma’n dod mewn potel drwsiadus sy’n gweddu’n dda i ddathliad neu achlysur arbennig arall – ond heb yr alcohol!

O’m rhan i, dwi’n hoffi gwinoedd rosé ffrwythus, ac mae gan y gwin yma fwy o surni grawnwin gwyrdd nag sydd at fy nant fel arfer. Ond, yn ddi-os, dyma ddiod adfywiol, braf, yn enwedig wedi’i hoeri’n dda. Byddai’n wych ar gyfer diwrnod poeth neu bicnic yn y parc, neu fel rhodd fach. Am y pris yma, dyma botelaid ragorol o win pefriog!

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​