Leeds Brewery OPA

English | Cymraeg

Ein barn ar Leeds Brewery OPA

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob potelaid: 66 (20 ymhob 100ml)
Sgôr: 5 o 5

Mentr gymharol newydd yw Bragdy Leeds, wedi’i sefydlu mor ddiweddar â 2007, ond mi wnaethon ni gryn gynnydd yn ystod y deng mlynedd ddiwethaf. Mae’r OPA newydd yma yn un o tuag ugain math o gwrw maen nhw wedi eu creu. Mae hefyd yn un o’r cyrfau di-alcohol gorau sydd i’w gael.

Buon nhw wrthi am ddwy flynedd yn perffeithio hwn. Cwrw gwelw Seisnig traddodiadol yw e, gyda lliw caramel hyfryd. O ran y blas, mae mymryn o hopys, digon o frag, ond dim gormod o’r naill na’r llall.

Ac mae diwyg gwych arno fe hefyd. Fel pob un o gyrfau’r bragdy, mae’n amlwg bod tipyn o waith wedi bod yn saernïo brand a photel unigryw iddo – gyda rhyw haul art deco yn codi uwchben tonnau’r môr. Mae hon yn ddiod gallwch chi ei dal yn eich llaw yng nghanol y dafarn heb deimlo tamaid o embaras.

Mae OPA ar gael yn chwe thafarn y bragdy, a gobeithio’n fawr mewn llawer iawn o dafarndai a siopau eraill yn fuan!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​