Left Handed Giant Run Free

English | Cymraeg

Ein barn ar Run Free, cwrw gwelw adfywiol gan Left Handed Giant.

Sgôr:

4/5

Cryfder: llai na 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: i’w gadarnhau

Cwrw gwelw di-alcohol yw Run Free, wedi’i ysbrydoli gan ysbryd Clwb Rhedeg LHG, sy’n cwrdd wrth fragdy’r Left Handed Giant ym Mryste. Pan edrychon ni, Run Free oedd eu hunig ddiod ddi-alcohol, ac maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi ei fragu “er mwyn sicrhau bod pawb yn cael ei gynnwys ac nad oes neb yn cael ei adael ar ôl”.

Felly, ydy’r ddiod yma yn arwain y ffordd, ynteu ydy e’n tindroi yng nghefn y ras? Yn sicr, mae’n torri trywydd newydd! Bydd y nodau pîn yn gwneud i chi deimlo fel tasech chi’n rhedeg ras draws-gwlad trwy’r coed yn hytrach na throedio strydoedd y dref. Mae’n gadael blas brag hufennog yn y geg, gydag adflas sitrws hyfryd. Nid y cwrw gorau o’i fath, o bosibl, ond un o’r goreuon.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​