Look Up Lemongrass and Ginger Kombucha

English | Cymraeg

Ein barn ar Look Up Lemongrass and Ginger Kombucha.

Sgôr:

5/5

Cryfder: llai na 0.5%

Calorïau ymhob can: 15

Dyma adolygiad gan awdur gwadd, ein Rheolwr Codi Arian ac Ymgysylltu, Adam Stokes

Draw yn swyddfeydd Counter Culture ym Mryste, roedden nhw’n poeni bod gormod o ddiodydd di-alcohol yn “anfoddhaol, di-antur, a llwythog â siwgr di-angen”. Felly, aethon nhw ati i greu rhywbeth gwell.

O’r cychwyn cyntaf, mae nodau sawrus y ddiod yma yn rhoi gwybod i chi fod rhywbeth amheuthun ar y gweill, ac mae’n ddigamsyniol o fywiog wrth i chi agor y can. Yn ôl Counter Culture, diod i’w hyfed yn lle lemonêd yw hon, ond dwi’n credu bod mwy na hynny yn y ddiod yma. Mae sawr y sinsir a’r lemonwellt yn cytgordio’n berffaith, gan greu blas sy’n fy atgoffa o gwrw sinsir ond sy’n hefyd cynnig dewis gwirioneddol amgen i ddiod alcoholaidd, ac un sy’n fwy diddorol o dipyn na lemonêd.

Dwi’n dwli ar y ddiod yma, ac mi sylwais i mai hi oedd y ddiod a ddiflannodd yn fwyaf buan o oergell ein swyddfa!

Gwaith celf gorffwyll sydd ar y can, gan fy atgoffa o’r sioe deledu ryfedd Rick and Morty – arallfydol, tipyn bach fel y kombucha yma!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​