Lowtide Atomic Blonde

English | Cymraeg

Ein Barn Ar Lowtide Atomic Blonde

Sgôr:

4/5

Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob 100 ml: 10
Sgôr: 4 o 5

Dyma adolygiad gan ei hawdur gwadd Phil McClelland, sydd i’w gael ar ei flog diodydd di-alcohol Opening the Bottle.

O’u bragdy yng Nghaerfaddon, mae Lowtide yn anelu at gyfuno “gwaith celf arobryn, beiddgarwch crefftus, a chyrfau di-alcohol hyfryd o wahanol”. Mae’r celf ar y can yma yn enghraifft dda o hynny, gan eich denu’n syth i’w godi a sbïo’n agosach arno: eirinen wlanog fawr wedi’i chysylltu â pheiriant rhyfedd yr olwg er mwyn tynnu’r sudd ohoni. Mae gan y cwrw ei hunan liw euraidd, heb fod yn rhy welw: tebyg i liw eirin gwlanog, sbo. Mae digon o ewyn ac mae’n para’n hirach o dipyn na’r ewyn ar y rhan fwyaf o gyrfau dirwestol.

Mae arogl digamsyniol o felys ond heb fod yn ormodol, ac mae’n wahanol i’r arogl siwgraidd gewch chi gydag ambell gwrw melyn melys. Mae i’w weld a’i wynto fel cwrw penigamp: un roeddwn i’n methu aros i’w drio. A dyna wnes i. Roedd e’n blasu’n union fel roeddwn i’n gobeithio: llyfn, esmwyth a dymunol iawn. Mae’r hopys a’r chwerwder yn gytbwys a dyw’r melystra ddim yn llethol; ac wedyn gallwch chi ddechrau gwerthfawrogi’r eirin gwlanog. Maen nhw yno ond dim dyna’r prif flas, a dyw e ddim yn llethu’r blasau eraill. Mae’r ddiod yn mynd fymryn yn felysach wrth i chi ei hyfed, a dwi ddim yn credu byddech chi eisiau cael mwy na dwy neu dair ar y tro.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​