Lucky Saint IPA

English | Cymraeg

Ein barn ar Lucky Saint IPA

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: 18

Mae Lucky Saint yn adnabyddus am greu un o’r cyrfau melyn gorau sydd: diod sydd i’w chael erbyn hyn mewn bwytai, tafarndai, a chlybiau iechyd hyd yn oed, ledled y wlad. Dyma eu cwrw gwelw cyntaf a dyw e ddim yn siomi.

Mae’n dod mewn can twt gyda lliw oren cynnil, ac arno logo buwch fach goch annwyl y cwmni. Mae’n ddiod fywiog gyda digon o ewyn. Mae tipyn o drwch iddi, a thipyn o chwerwder ond dim gormod. At ei gilydd, dyma ddiod berffaith ar gyfer diwrnod o haf!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​