Lyre’s Classico Grande

English | Cymraeg

Ein barn ar Lyre’s Classico Grande.

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 18

Mae gan Lyre’s Classico olwg a blas clasurol prosecco pefriog. Mae diwyg y botel yn osgeiddig, cystal ag unrhyw win alcoholaidd o safon, ac mae’n cynnig dewis amgen da os na fyddwch chi’n dymuno diota.

Wedi’i weini mewn gwydryn coesog tal, mae gan Classico swigod ysgafn a blas cynnil, melys ac adfywiol, gyda digon o ffrwythau. Mae’n gwneud y tro i’r dim ar gyfer dathliad, llwncdestun, neu achlysur fwy tawel.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​