Lyre's Dark 'N Spicy

English | Cymraeg

Ein barn ar Lyre's Dark 'N Spicy

Sgôr:

4/5

Gwirod Swyddogol Ionawr Sych 2022

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob can:
73 (29 per 100ml)


Sgôr: 4 o 5

Wedi’i chyflwyno mewn can coch ac aur cain, mae’r ddiod befriog yma yn addo moethusrwydd a sbeis. Mae ei gwneuthurwyr yn awgrymu ei gweini gyda sleisen o leim a digon o rew mewn gwydryn tal.

Wedi’i thywallt, mae arogl sinsir cryf, lliw euraidd golau, ac ychydig bach o swigod. Roedd y blas yn felysach na’r disgwyl, a’r ddiod yn teimlo bron fel surop, ond roedd hefyd dipyn o gic sbeisiog, a phob llymaid yn rhoi teimlad cynhesol braf. Mae fel pe bai Lyres wedi troi Teisen Sinsir Jamaica yn ddiod i gynhesu’r galon ar noson oer o aeaf.

Bachwch eich Lyre’s yma. Defnyddiwch y côd DRYJAN20 i gael 20% oddi ar bris pob potelaid 70cl o wirodydd

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​