Lyre’s Highland Malt

Ein barn ar Lyre’s Highland Malt.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 10

Mae dau fath o ddiod ddi-alcohol sy’n anodd ar y naw eu gwneud yn dda, sef gwin coch ac wisgi. Mae Lyre’s, felly, wedi bod yn eithaf beiddgar wrth geisio talu teyrnged dirwestol i wisgi brag hen-ffasiwn Ucheldiroedd yr Alban.

Rhoddon ni gynnig ar hon ar ei phen ei hun, ond fel y rhan fwyaf o wirodydd di-alcohol mae hi’n gweithio gorau wedi’i chymysgu. Dewison ni gwrw sinsir da ac roedd y canlyniadau’n benigamp. Mae arogl mawn dymunol a rhyw wres braf sy’n para’n hir – yn union fel wisgi da. Roedd hi’n gweithio’n dda hefyd mewn diodydd poeth fel te neu ddiod siocled boeth. Felly, os ydych chi’n hoff o gael diod dwym ar hirnos gaeaf duoer, gallai Lyre’s Highland Malt fod yn berffaith i chi.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​