Lyre’s Pink London Spirit

English | Cymraeg

Ein barn ar Lyre’s Pink London Spirit.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 38

Yn union fel gwirodydd eraill Lyre’s, mae’r wirod rosliw Lundeinig yma yn wych yr olwg ac yn dod mewn potel foddhaol o soled a thrwm, gyda label ddeniadol sy’n awgrymu mai diod o safon sydd tu fewn.

Mae’r lliw pinc a’r arogl peraidd a melys yn hyfryd. O’i gymharu â’r arogl, mae’r blas yn fwy cynnil, llyfn a sych. Cymysgwch hi gyda dŵr tonic i greu ‘G&T’ pinc clasurol.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​