M&S Extra Dry Botanical G&T

English | Cymraeg

Ein barn ar M&S Extra Dry Botanical G&T

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: 22

Dyma goctel sydd wedi’i anelu, yn sicr, at garedigion jin-a-thonic traddodiadol. Mae e wedi’i gyflwyno mewn can gwyrdd gyda phatrwm prydferth o ddail – yn dwyn i gof poteli Gordon’s.

Mae arogl meryw hyfryd, ac mae hi’n sych dros ben. Perffaith i’r rhai sy’n dwli ar g-n-t hen ffasiwn.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​