M&S Lime Mojito

English | Cymraeg

Ein barn ar M&S Lime Mojito

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: 21

O holl goctels di-alcohol parod M&S, dyma’r un oedd yn ein plesio ni fwyaf. Diod gymylog yw hi, heb fod yn rhy felys, gyda chydbwysedd da rhwng mintys a leim. Mae hi wedi’i phecynnu’n dda ac yn berffaith ar gyfer diwrnod hir o haf – efallai gyda sbrigyn o fintys ffres a sleisen o leim.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​