M&S Low Alcohol British Craft Lager

English | Cymraeg

Ein barn ar M&S Low Alcohol British Craft Lager

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: 9

Mae’r cwrw melyn yma wedi’i greu ar gyfer M&S gan fragdy Hepworth yn Sussex. Mae wedi’i wneud â hopys, brag, ac agafe – y planhigyn o America Ladin sy’n sylfaen i tequila.

Mae’n gwrw bywiog gyda digon o ewyn. Efallai ei fod e fymryn yn brin o hopys am gwrw crefftus, ond, at ei gilydd, mae’n ddiod ysgafn ac adfywiol.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​