Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 48
4/5
English | Cymraeg
Diod ar gyfer marchnad y gaeaf yw hon, yn amlwg, gyda lliw coch cynnes ac arogl aeron y gwrychoedd
Sgôr:
4/5
Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 48
4/5
Diod ar gyfer marchnad y gaeaf yw hon, yn amlwg, gyda lliw coch cynnes ac arogl aeron y gwrychoedd.
Ar sail yr olwg a’r oglau, roedden ni’n disgwyl rhywbeth melys, ond mae hon yn ddiod fwy cymhleth na hynny. Yn ogystal â blasau gwin, mwyar duon, mafon, ac eirin ysgaw, mae hefyd sbeisiau Nadoligaidd cynnes, fel gwin poeth, sy’n cydbwyso’r melystra. Dyw gwin pefriog ddim fel arfer yn ddiod ar gyfer y gaeaf, ond, ar ôl blasu hwn, efallai ei fod e!
Mae’n dod mewn potel hyfryd hefyd, gyda chorcyn Champagne go-iawn, sy’n gwneud iddo deimlo damaid yn fwy arbennig.
Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.