Maiden Mill Flyer

English | Cymraeg

Ein barn ar Maiden Mill Flyer – seidr go-iawn o Wlad yr Haf

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: 25

Gwneuthurwyr seidr o Wlad yr Haf yw Maiden Mill, gan ddilyn traddodiad de-orllewin Lloegr o greu seidrau gwych. Ond mae un peth sy’n wahanol i’r traddodiad, sef bod eu holl ddiodydd fwy neu lai’n ddi-alcohol (0.5% neu lai). 

Gan iddo gael ei wneud trwy ddulliau gwasgu seidr traddodiadol, mae hwn yn teimlo fel seidr go-iawn. Mae’n gymylog a chanolig o sych, ac roedd ein panel profi wrth eu bodd. Chwarae ar enw cwmni Maiden Mill mae enw’r seidr ‘Flyer’ ac mae’n deyrnged i bob ‘maiden flight’ sydd wedi digwydd trwy flynyddoedd hanes. Gan gystal yw’r blas, mae’n siŵr bydd y seidr yma yn hedfan o silffoedd y siopau!

Mae’n ddi-glwten ac yn addas i feganiaid.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​