Maiden Mill Voyage

English | Cymraeg

Ein barn ar Maiden Mill Voyage – diod i dynnu dŵr o’ch dannedd!

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: 25

Un amcan sydd Maiden Mill, sef “creu seidr heb alcohol, ond gyda llond trol o bleser a blas”. Ym marn ein panel profi, maen nhw wedi llwyddo. Mae ei seidr euraidd Voyage yn gwneud popeth dylai seidr da ei wneud: mae’n blasu’n dda, yn edrych yn dda, ac mae fwy neu lai’n ddi-alcohol (0.5%) er na fasech chi’n sylwi ar ei absenoldeb. Does dim glwten na chynnyrch anifeiliaid ynddo chwaith.

Yn debyg i seidr prin-ei-alcohol Stowford Press (sydd hefyd yn arbennig o dda) mae Voyage troedio’n ddeheuig y llinell denau rhwng melystra a surni, ac mae dyfnder blas y ddiod yn sicr o dynnu dŵr o’ch dannedd!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​