Mash Gang Chug

English | Cymraeg

Ein barn ar Mash Gang Chug.

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: Dim gwybodaeth

Wedi’i sefydlu gan griw o bedwar o ffrindiau yn 2020, mae Mash Gang yn ceisio cynnig cwrw o safon i’r sawl sy’n ymwrthod ag alcohol, yn cymedroli, neu’n meddwl am yfed llai. Fel mae enw’r cwrw yma yn ei awgrymu, gyda chryfder o gwta 0.5%, gallwch chi yfed llond eich bol ohono heb berygl pen tost.

Mae’r broliant yn addo “tymestl drofannol”. Ydy rhagolwg y tywydd yn gywir? Yn sicr, dyma gwrw gwelw ysgafn ac adfywiol, gyda chwerwder braf. Mae’n ddiod ddymunol, rhaid dweud, ond ddim cweit cystal â’u cwrw gwelw arall, Cult, yn ein barn fach ni.

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​