Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 6
English | Cymraeg
Ein barn ar Mash Gang Cult.
Sgôr:
4/5
Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 6
Mae’r cwrw gwelw cymylog ac euraidd yma yn un o nifer o gyrfau 0.5% a grëwyd gan Mash Gang, bragdy annibynnol a sefydlwyd yn 2020 gan bedwar o gyfeillion er mwyn cynhyrchu cyrfau di-alcohol llawn cystal â rhai alcoholaidd. A barnu ar sail y ddiod yma, maen nhw’n llwyddo i gyrraedd eu nod.
Mae e wedi’i becynnu’n gofiadwy mewn can piws gyda delw ddychrynllyd braidd o neidr troellog. O ran blasau, mae chwerwder amlwg a mymryn bach o ffrwyth. Os yw cwrw gwelw llawn hopys at eich dant, dylai hwn fod yn ddelfrydol i chi.
Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.