McGuigan Zero Sparkling

English | Cymraeg

Ein barn ar McGuigan Zero Sparkling

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob potelaid: wrthi’n aros gwybodaeth
Sgôr: 4 o 5

Mae’r teulu McGuigan yn gwneud gwin ers 1880. Yn 2019 lansion nhw eu casgliad Zero, gan anelu at gynnig i’w cwsmeriaid “y rhyddid i ddewis mwynhau gwydraid o win rhagorol, heb yr alcohol”.

Mae’r gwin pefriog yma wedi’i wneud o amrywiaeth o rawnwin gwyn o winllannoedd McGuigan yn Ne Cymru Newydd. Yn ôl ei wneuthurwyr, maen ganddo flasau miniog “gellyg ac afalau gwyrdd”. Roedd ein panel profi yn cytuno bod ganddo frathiad da gwin pefriog sych. Mae e fymryn yn denau, o bosib, ond mae iddo liw da a llwyth o swigod. Gwerth rhoi cynnig arno, yn sicr.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​