Monte Rosso

English | Cymraeg

Ein barn ar Monte Rosso

Sgôr:

2/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob potelaid: 94 (34 ymhob 100ml)
Sgôr: 2 o 5

Mae’r ddiod ddi-alcohol newydd yma yn cael ei marchnata fel ‘un aperitivo elegante’, gyda gwefan sy’n llawn lluniau o fywyd Eidalaidd braf. Wedi’i chreu â llugaeron, criafol, a llu o berlysiau blasus, daw mewn pecyn coch ac aur trawiadol, a golwg arni fel ‘la dolce vita’ mewn potel.

O ystyried hyn oll, roedden ni’n edrych ymlaen yn arw iawn at ei blasu. Yn anffodus, doedd hi ddim at ddant ein panel profi. Mae tipyn o wynt sierbet arni hi, ac mae ganddi adflas eithriadol o chwerw sy’n cydio yng nghefn y gwddf. Mae’n ddrwg gennym ddweud nad oedden ni ddim yn awyddus i wagio’r botel.

Os ydych chi’n un am ‘aperitivo’ fel arfer, rhowch gynnig arni. Efallai ein bod ni’n bell ohoni! Mae Monte Rosso ar gael yn Waitrose a thrwy Ocado, lle cewch chi ddarllen hefyd farn pobl eraill arni.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​