Moodybrew Ginger

English | Cymraeg

Ein barn ar Moodybrew Ginger.

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0%

Calorïau ymhob 100ml: 4

Dyma adolygiad gan awdur gwadd, ein Rheolwr Codi Arian ac Ymgysylltu, Sven Stears.

Mae digon o sinsir yma. Does dim dwywaith am hynny! Cyn gynted ag agorwch chi’r botel, mae’n eich taro chi – heb fod yn llethol, ond yno, yn sicr. Mae’n gryfach fyth ar y tafod, gyda mymryn o sitrws.

Ond does dim byd yma na chewch chi mewn diodydd sinsir eraill. Efallai mai sinsir ei hun yw’r broblem – ein bod ni wedi hen arfer â fe.

Un gwahaniaeth amlwg yw nad yw diodydd Moodybrew yn rhai byrlymus. Meddyliais i am eiliad am ei rhoi hi trwy’r Soda Stream, er mwyn rhoi tipyn o swmp iddi. Ond wedyn, byddai hi’n debyg i bob diod sinsir arall sydd i’w chael.

Os ydych chi’n hoffi diodydd sinsir, a ddim yn hoffi blasau annisgwyl, mae’n bosibl mai dyma’r ddiod i chi.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​