Moodybrew Velvet

Ein barn ar Moodybrew Velvet

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0%

Calorïau ymhob 100ml: 4


Does dim byd melfedaidd am hon!

Dyma ddiod nerthol sy’n smalio bod yn fwyn. Doeddwn i ddim yn barod am yr holl flasau sy’n ymguddio yn y botel fach hon. Dim o gwbl!

Roedd rhaid i mi graffu ar y rhestr cynhwysion er mwyn rhoi enw ar bob arogl. Sinamon, wrth gwrs. Eirin ysgaw, yn iawn. Sudd oren, derbyniol. Pupur du…beth? Paprica myglyd? Arhoswch chi funud! Beth mae hwnnw’n wneud yn fan hyn?!

Ddylai’r fath gybolfa ddim gweithio. Ond rhywsut mae’n gweithio’n dda.

Fy unig siom yw’r teimlad dyfrllyd braidd sydd iddi. Ar ôl i chi ei llymeitian, ar wahân i ryw oglais bach ar eich gwefusau, mae’r blas yn diflannu. Nid fel cwrw neu goctel, lle mae’r atgof yn aros yn eich ceg am funud fach hyfryd. Mae rhywbeth ar goll, er nad ydw i’n hollol siŵr beth.

Os ydych chi wedi syrffedu ar ddiodydd di-alcohol arferol, ac yn awchu am roi cynnig ar rywbeth gwahanol, efallai mai dyma’r ddiod i chi. Er eu bod nhw’n awgrymu ar y botel ei gweini ar dymheredd yr ystafell, i fi roedd hi’n well o gael ei hoeri’n dda.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​