Naesip Munro

English | Cymraeg

Ein barn ar Naesip Munro - gwirod ysbrydoledig o’r Alban.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: 21

Os ydych chi’n chwilio am ddiod briddlyd, flodeuog, ddi-alcohol i’w chael yn lle jin, mae hon yn werth rhoi cynnig arni.

Mae hi wedi’i henwi ar ôl Mynyddoedd Munro – rhestr Syr Hugh Munro o uchelfannau’r Alban sy’n fwy na 3,000 troedfedd uwchben y môr. Ar sail ei blas, mae’n amlwg fod Naesip yn nabod y dirwedd ddi-alcohol. Yn gyforiog o gwsberis yr Alban, aeron meryw a pherlysiau, mae’n llawn blas heb fod yn llethol, a heb y blasau cemegol sy’n difetha ambell jin ddi-alcohol arall.

Fydd hi ddim yn gwneud i chi feddwl yn syth am jin. Ond rhowch gynnig arni gyda thonic a sleisen o oren, a byddwch chi wrth eich bodd. Mae’r botel hefyd yn gampwaith!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​