Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 6
English | Cymraeg
Diod mintys ysgafn braf.
Sgôr:
4/5
Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 6
Sefydlwyd cwmni Naked Life yn 2016 gan David Andrew, oedd wedi dechrau creu diodydd ar gownter ei gegin fel rhan o ymdrech i fwyta ac yfed llai o siwgr. Mae e wedi dweud bod ei ddiodydd wedi “newid y gêm” o ran faint o alcohol mae’n ei yfed, a hefyd “sut mae bore trannoeth”: sef dim pen tost.
Mae pob un o ddiodydd Naked Life yn cael eu creu o detholiad o blanhigion – yn yr achos yma, ciwcymber, mintys, afalau a leim – sy’n eu cynhesu â stêm gan ryddhau eu blasau ac aroglau peraidd. Diod mintys ysgafn braf yw’r canlyniad – perffaith at ddiwrnod o haf, a hefyd rhyfeddol o brin o galorïau.
Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.