Nirvana Classic IPA

English | Cymraeg

Ein barn ar Nirvana Classic IPA

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: 10

Dyma un o bedwar cwrw gwelw gan Fragdy Nirvana yn Nwyrain Llundain. Mae’n ysgafn a bywiog, gyda digon o hopys a mymryn o saffron. Fel pob un o gyrfau Nirvana, mae’n ddiod unigryw – gwahanol i gwrw pawb arall. Dyw e ddim yn blasu fel cwrw llai alcoholaidd chwaith – a hynny mewn ffordd dda!

Gwnewch amser i sbïo ar holl gyrfau Nirvana ac efallai cewch chi ffefryn newydd yn eu plith.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​