Nirvana Hoppy Pale Ale

English | Cymraeg

Ein barn ar Nirvana Hoppy Pale Ale

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: 9

Mae enw’r cwrw yma yn ei ddisgrifio i’r dim. Mae’n euraidd a chymylog ac yn blasu o hopys yn anad dim. Ond yn wahanol i ambell gwrw gwelw, mae mwy na chwerwder i’r blas, ac mae hefyd nodau blodeuog a sitrws braf. Bydd e’n tynnu dŵr o’ch dannedd yn hytrach na chrychu eich ceg.

Fel pob un o gyrfau Nirvana, mae e wedi’i becynnu’n dda ac yn dal eich llygad yn syth. Gwerth rhoi cynnig arno, yn sicr, os ydych chi’n hoff o gwrw gwelw.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​