No. 1 Living Passion Fruit Kombucha

English | Cymraeg

Ein Barn Ar Living Passion Fruit Kombucha

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob can: 10 (4 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Mae ffrwythau pasiwn yn rhoi blas hyfryd i deisenni, diodydd a phob math o bethau, ond maen nhw weithiau’n rhy felys o dipyn. Rywsut, mae No. 1 Living wedi creu’r ddiod ffrwyth pasiwn yma yn fath fodd nes bod cydbwysedd da rhwng ffrwythau pasiwn, aeron goji, a kombucha, gan greu blas crwn cytbwys. Hefyd, mae chwerwder ysgafn y goji yn rhoi blas mwy aeddfed na soda. Fel y rhan fwyaf o ddiodydd No.1 Living, mae hon yn ddi-siwgr, figanaidd, ac, yn ôl y sôn, yn llesol i’ch perfeddion.

Fel arfer, y cyngor yw i blant neu unrhyw un sy’n feichiog beidio ag yfed kombucha, gan fod y ddiod yn dal i eplesu ac felly gall faint o alcohol sydd ynddi amrywio, er nad yw’n codi uwchben 0.5% fel arfer.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​