Noughty Monté

English | Cymraeg

A good deep red colour; a pleasant fruity aroma; and nice hint of blackberries in the flavour

Sgôr:

4/5

Cryfder: llai na 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: 14

Mae Thomson & Scott yn gwneud un o’r gwinoedd gwyn pefriog gorau gewch chi ar werth. Mwy anodd o dipyn yw creu gwin coch o’r un safon. Felly, sut gwnaethon nhw?

Yn gyntaf oll, mae golwg wych ar y ddiod yma, mewn potel drwsiadus gyda graffeg o fynyddoedd arni. Mae’r gwin wedi’i wneud o rawnwin Syrah o Dde Affrica, ac wedi’i aeddfedu mewn casgenni derw o Ffrainc, cyn i’r alcohol gael ei dynnu allan yn ofalus.

Mae ganddo liw coch dwfn, da; arogl ffrwythus braf; a mymryn o fwyar duon yn y blas. At ei gilydd, mae’n ddiod ddymunol, ond mae hi braidd yn denau, a fydd hi ddim yn plesio caredigion gwin coch i gyd.

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​