Old Mout: Pineapple and Raspberry

English | Cymraeg

Ein barn ar Old Mout: Pineapple and Raspberry.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0%

Calorïau ymhob potelaid: 125 (25 ymhob 100ml)

Sefydlwyd cwmni seidr Old Mout yn Seland Newydd yn 1947 ond mae eu diodydd yn cael eu creu erbyn hyn ym mherfeddwlad perllannau Lloegr: sir Henffordd. Mae eu seidrau yn bell o fod yn draddodiadol ac mae gan hwn flas unigryw. Mae’r arogl yn debyg i siop losin hen-ffasiwn, a’r blas yn chwerw-felys fel losin caled. Pinafal sy’n dod drwodd yn bennaf ond sawl blas arall hefyd. Mae gan y ddiod liw hyfryd fel aur rhosliw ac mae’n llawn swigod mân. Os yw seidrau mwy melys at eich dant, rhowch gynnig ar hwn.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​